Mae angen cymorth arnaf i osod archeb

Neges ‘gwall’ wrth geisio talu? Gwiriwch y canlynol:

Gall gwiriadau diogelwch fod wedi methu

Mae’r prosesydd taliadau yn rhedeg gwiriadau cefndir ar bod trafodiad. Un methiant cyffredin yw nad yw eich cyfeiriad bilio yn cyfateb yn union i’r cyfeiriad ar eich datganiad banc. Mae gwahaniaethau bychan mewn fformat yn medru creu anawsterau.

 

Gwiriwch eich cyfeiriad bilio

Gwnewch yn siwr bod y cyfeiriad yr ydych yn mewnbynnu ar y dudalen talu yn cyfateb yn union i’r un sydd ar eich datganiad banc. Teipiwch y cyfeiriad eich hun yn hytrach na defnyddio’r ddyfais chwilio côd post.

Defnyddiwch ddyfais neu borwr gwahanol

Weithiau, y gall newid dyfais neu borwr ddatrys problemau cysoni.

Gwiriadau o’r banc ddim yn gweithio

Yn anffodus, os nad yw gwiriadau o’ch banc yn gweithio, nod oes modd i ni gynorthwyo yn uniongyrchol. Cysylltwch â’ch banc am gymorth. Ar sgrinau bach, mae’n bosib y bydd angen i chi sgrolio o fewn unrhyw flychau gwiriad ‘pop-yp’ trwy glicio o’u mewn yn gyntaf.

Defnyddiwch gerdyn neu ddyfais gwahanol

Os yw’r broblem yn parhau, ceisiwch ddefnyddio cerdyn gwahanol neu geisio archebu gyda dyfais arall.

Gwiriwch fformat dyddiad dod i ben y cerdyn

Nodwch y dyddiad dod i ben fel MMBB (e.e. 0826 ar gyfer Awst 2026).

Dylid osgoi enwau neu gyfeiriadau hir

Mae gan rai banciau uchafswm o lythrennau a ganiateir. Cadwch enwau a chyfeiriadau o fewn y terfynau.

Ni ellir prynu rhai tocynnau ar ben eu hunain

Mae angen prynu rhai mathau o docynnau gyda thocyn arall (e.e. tocyn plentyn, tocyn gofalwr ac ychwanegiadau). Rhaid cysylltu â threfnwyr y digwyddiad am gymorth pellach.

Gellir cysylltu â’r digwyddiad ar 0345 4090 300, gwyb@eisteddfod.cymru, a https://eisteddfod.cymru/amdanom-ni/manylion-cyswllt.

Gwiriwch yr holl wybodaeth sydd angen

Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob rhan sydd ag (*) wedi ei nodi.

Gwiriwch am gwestiynau ychwanegol

Mae rhai digwyddiadau yn cynnwys cwestiynau ychwanegol wrth archebu. Rhaid ateb rhain cyn symud ymlaen.

Os yn uwchlwytho dogfennau wrth archebu

Sicrhewch eich bod yn defnyddio ffeiliau JPEG, PNG, Word neu PDF.

Ceisiwch ddefnyddio dyfais neu borwr gwahanol

Gall problemmau fformatio neu ddata cuddiedig (cwcis) ar eich dyfais bresennol achosi camgymeriadau.

Yn aml, gall defnyddio dyfais neu borwr gwahanol ddatrys hyn.

Cliriwch eich basged a dechreuwch eto

Os yw problemau yn parhau, cliriwch eich basged, ac ail ddechreuwch eich archeb o’r dechrau.

Cysylltwch â’r digwyddiad yn uniongyrchol. Gall rhai mathau o docynnau gael eu tynnu o werthiant cyn y digwyddiad. Gellir cysylltu â’r digwyddiad ar 0345 4090 300, gwyb@eisteddfod.cymru, a https://eisteddfod.cymru/amdanom-ni/manylion-cyswllt.

Cysylltwch â’r digwyddiad yn uniongyrchol. Gellir cysylltu â’r digwyddiad ar 0345 4090 300, gwyb@eisteddfod.cymru, a https://eisteddfod.cymru/amdanom-ni/manylion-cyswllt.

Mae rhai digwyddiadau yn cyfyngu mynediad i rai mathau o docynnau (e.e. aelodau yn unig, tocynnau stondinwyr ac ati) a mae angen gwiriadau cyn archebu. Mae gwiriadau yn cael eu rheoli gan drefnwyr y digwyddiad, nid TICKEtSRV. Nid oes gennym fynediad i ddogfennau na pholisïau y digwyddiad. Os ydych yn gweld neges ‘gwall’ wrth geisio gwirio eich manylion, cysylltwch â threfnwyr y diwyddiad yn uniongyrchol. Gellir cysylltu â’r digwyddiad ar 0345 4090 300, gwyb@eisteddfod.cymru, a https://eisteddfod.cymru/amdanom-ni/manylion-cyswllt.

Mae pob taliad yn cael eu prosesu yn ddiogel trwy naill ai gerdyn debyd neu gredyd gan gwmni taliadau awdurdodedig. Ni fydd trefnwyr y digwyddiad na TICKETsrv yn derbyn manylion eich cerdyn yn ystod eich trafodiad. Mae eich taliad yn mynd yn uniongyrchol i’r digwyddiad, felly mae eich cytundeb gyda threfnwyr y digwyddiad, a nid TICKETsrv.