


Os ydych yn cael trafferth i lawrlwytho tocynnau o’r bar lawrlwytho yn yr ebost cadarnhau, ceisiwch ei hail ddanfon fel atodiad yn y blwch isod.
Ar gyfer rhai digwyddiadau, gall tocynnau gael eu dal ar gyfer gwiriad gan drefnwyr y digwyddiad, os oes angen manylion ychwanegol/dogfennau (e.e. prawf o gymhwyster) Ni fydd y tocynnau ar gael i’w lawrlwytho tan bydd y dogfennau wedi’u cymeradwyo. Unwaith y byddant wedi’u cymeradwyo, byddwch yn derbyn cadarnhad trwy ebost, ynghyd â linc i lawrlwytho eich tocynnau.
Os ydych yn ansicr o statws eich cais, dylid cysylltu yn uniongyrchol â threfnwyr y digwyddiad. Gellir cysylltu ar
0345 4090 300, gwyb@eisteddfod.cymru, a https://eisteddfod.wales/about/contact-us.
Defnyddiwch borwr gwahanol – Os yw Safari yn dal i greu problemau, gallwch drïo porwr gwahanol fel Google Chrome neu Firefox i lawrlwytho eich tocyn.
Gallwch agor eich e-docynnau fel syllwr PDF neu borwr.
Ar ôl prynu, byddwch yn medru lawrthwytho eich e-docynnau yn syth. Bydd ebost cadarnhau, gyda linc lawrlwytho hefyd yn cael eu danfon o fewn ychydig funudau. Os na allwch ei weld, gwiriwch eich ffeil sbwriel/sothach. Neu, nodwch eich cyfeiriad ebost isod:
Gall lawrlwytho eich tocynnau fod yn disgwyl cymeradwyaeth
Mae angen dogfennau ar gyfer rhai digwyddiadau wrth archebu. Ni bydd eich tocynnau ar gael tan bydd trefnwyr y digwyddiad wedi gwirio a chymeradwyo’r dogfennau. Unwaith bydd y dogfennau wedi’u cymeradwyo, byddwch yn derbyn ebost newydd i gadarnhau eich tocynnau
Ceisiwch ail ddanfon eich tocynnau
Yn ddelfrydol, dylid dangos y côd QR sydd ar eich tocyn i gael mynediad. Fodd bynnag, os na allwch argraffu na gweld y tocyn, gellir defnyddio’r rhif tocyn unigryw a leolir o dan y côd QR ar bob tocyn.