Creu neu logio fewn i’ch Cyfrif Tocynnau

Mae’r rhan fwyaf o safleoedd tocynnau yn caniatau archebu tocynnau heb greu cyfrif trwy eich nodi fel gwestai. Os nad oes gennych gyfrif wedi’i gofrestru, ni bydd modd i chi logio fewn, na derbyn ebyst i ail osod eich cyfrinair. Os nad ydych yn siwr a oes cyfrif gennych, neu’n methu logio i fewn, cliciwch ar y bwtwm Cofrestru/Creu Cyfrif. Byddwch yn mewnbynnu eich manylion ac yn creu cyfrinair. Dim ond un cyfrif y gellir ei ddefnyddio gyda’r un cyfeiriad ebost. Os yw’r ebost wedi ei gofrestru eisoes, fe’ch hysbysir. Unwaith y bydd y cyfrif wedi’i greu, cewch eich logio fewn yn awtomatig.