


Mae e-docyn yn docyn digidol a dderbynnir yn syth wedi ei brynu. Gellir ei argraffu adref, neu ei ddangos ar eich dyfais symudol. Yn aml, mae prynu tocyn arlein, ymlaen llaw, yn rhatach, a bydd yr e-docynnau yn cael eu sganio wrth y fynedfa i sicrhau mynediad cyflym. Ni bydd angen ciwio i dalu ar y diwrnod.
Mae e-docyn yn ddilys i’w ddefnyddio unwaith yn unig. Unwaith y bydd wedi ei sganio, ni ellir ei ail ddefnyddio. Ar gyfer tocynnau aml-ddydd, gellir eu sganio unwaith bob dydd. Dylid gwirio eich tocyn am y manylion perthnasol.
Gellir dangos e-docynnau ar eich dyfais symudol. ‘Rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho, neu yn cymryd sgrîn-lun o’ch tocyn ymlaen llaw, gan y gall y signal ar y Maes fod yn annibynadwy. Gellir safio eich e-docynnau yn uniongyrchol i ‘ch waled symudol ar gyfer mynediad cyflym a rhwydd.
Mae argraffu eich e-docyn yn opsiynol. Os ydych yn dewis argraffu, mae lliw, neu ddu a gwyn yn iawn.
Mae pob e-docyn ar dudalen wahanol, felly mae angen i bob aelod o’ch grŵp gael eu tocynnau eu hun yn barod. Dim ond y sgan gyntaf o bob tocyn a dderbynnir, bydd copïau yn cael eu gwrthod.
Nid oes modd datrys problemau yn ymwneud â thocynnau wrth y fynedfa. Gall problemau na ellir eu datrys olygu y bydd rhaid i chi brynu tocyn newydd, ac aros tan ddiwedd y digwyddiad i gael datrysiad. Ni all y digwyddiad gael ei dal yn gyfrifol os nad oes modd i chi gael mynediad i’ch tocyn wrth y fynedfa.